top of page
  • Youtube
  • LinkedIn
  • icons8-twitterx-50
  • Black Instagram Icon
  • TikTok
Aim
Eligibility
Entry format

Economegydd Ifanc y Flwyddyn 2026
noddwyd gan KPMG UK 

Mae cystadleuaeth Economegydd Ifanc y Flwyddyn 2026 bellach ar agor! Rydym yn croesawu cyflwyniadau gan fyfyrwyr ym Mlynyddoedd 10 - 13 (neu gyfwerth) i ystyried problemau economaidd y byd go iawn.

- NOD
- Cymhwysedd
- Fformat mynediad
- Beth sy’n digwydd nesaf?
- Cwestiynau cyffredin

NOD

Nod cystadleuaeth Economegydd Ifanc y Flwyddyn 2026, Y Gymdeithas Economaidd Frenhinol, a noddir gan KPMG UK ac FT Schools yw annog myfyrwyr Blwyddyn 10 – Blwyddyn 13 i ddatblygu eu syniadau eu hunain wrth ddadansoddi problemau economaidd cyfoes sy'n wynebu'r DU a'r byd.

 

Gall myfyrwyr ddewis o blith rhestr o’r pynciau isod. Nid oes angen i ddysgwyr astudio economeg i gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon. Mae’r RES yn croesawu ceisiadau gan unrhyw ddysgwyr sydd â diddordeb mewn materion economaidd ac a hoffai rannu syniadau neu safbwyntiau gwreiddiol ar y materion hyn. Mae’r RES hefyd yn croesawu ystod amrywiol o gyfraniadau a mewnwelediadau ar bynciau’r gystadleuaeth.

CYMHWYSEDD

I ymgeisio, rhaid i chi fod:

  • ym Mlynyddoedd 10 i 13 yn Lloegr neu Cymru, Blynyddoedd 11 i 14 yng Ngogledd Iwerddon, neu S3 i S6 yn yr Alban 

  • astudio yn y DU
     

Mae ymgeisio i’r gystadleuaeth yn rhad ac am ddim. Nid oes angen i chi fod yn astudio economeg, a gallwch weithio ar eich cais gyda hyd at 4 disgybl arall.  Ar gyfer ceisiadau gan ysgolion preifat rydym yn annog iddynt ymgeisio mewn partneriaeth ag ysgolion gyfun lleol.  

Fformat mynediad

Rhaid i’ch cais:

​

ateb 1 o’r 5 cwestiwn isod:

  1. ​A yw gwlad yn wirioneddol gyfoethog os oes ganddi CDG uchel (Cynnyrch Domestig Gros), ond mae ei dinasyddion yn anhapus?

  2. Mae masnach rydd yn creu enillwyr a chollwyr – ydy hyn yn ddymunol?

  3. A ddylid caniatáu prisio deinamig ar gyfer digwyddiadau mawr fel cyngherddau / gigs / gwyliau / rowndiau terfynol chwaraeon?

  4. A ddylai biliwnyddion fodoli mewn economi sy'n gweithredu'n dda?

  5. Sut bydd DA (Deallusrwydd Artiffisial) yn effeithio ar dwf economaidd hirdymor mewn gwledydd datblygedig?


•    fod ar ffurf ysgrifenedig neu gyfryngol. Hyd ysgrif ar ffurf blog dim mwy na 1,000 o eiriau. Mae’r cyfryngau yn cynnwys fideo, podlediad neu sleidiau cyflwyno pwerbwynt. Ni ddylai fideos a phodlediadau fod yn hirach na 5 munud o hyd.


•    fod gan unigolyn neu grŵp o 2-5 disgybl.


•    ni ddylai gynnwys unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy. Bydd angen rhoi’r wybodaeth yma ar dudalen we y gystadleuaeth.


•    beidio â defnyddio cymwysiadau fel ChatGPT neu fathau eraill o ddeallusrwydd artiffisial (AI)


•    mae'n rhaid i chi gydnabod y defnydd o wybodaeth/deunydd o ffynonellau eraill. Nid oes angen cyfeirnodau manwl testunol o'ch dadleuon, fodd bynnag, rhaid cynnwys rhestr o’r ffynonellau rydych wedi defnyddio sydd wedi dylanwadu'n sylweddol ar eich dadleuon ar ddiwedd eich cais. Os fydd eich cais yn un ysgrifenedig yna dydy’r ffynhonellau ddim yn cyfri tuag at nifer y geiriau. Gweler y fideo 'How to reference' (Saesneg yn unig) am fwy o gymorth.

​

Frequently asked questions

Cofrestrwch i'n gweminar yma am awgrymiadau unigryw a chwestiynau cyffredin! Cyfle anhygoel ar 14 Ebrill 2026 am 5yh i glywed gan enillwyr 2025, a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych am y gystadleuaeth. Cofrestrwch yma.

​

​

​

​

​

​​

​

​

​

​

​

​

​

A oes terfyn amser ar bodlediadau/fideos?

Oes - ni ddylai podlediadau a fideos fod yn hirach na phum munud o hyd.

​

A oes cyfyngiadau ar bwerbwyntiau?

Os byddwch chi’n recordio eich pwerbwynt, a'i siarad drosodd, ni ddylai fod yn hirach na phum munud. Os yw'n cael ei gyflwyno fel pwerbwynt yn unig, ni ddylai fod yn hirach nag wyth sleid, na mwy na 1,000 o eiriau.

​

Oes angen trawsgrifiad arnaf ar gyfer fy mhodlediad/fideo?

Nac oes, ond meddyliwch sut y byddwch yn cyflwyno eich cyfeiriadau - a fydd hyn ar lafar, neu o fewn dogfen word?

​

Ydy dyfyniadau yn cyfrannu at y cyfanswm geiriau?

Ydyn.

​​

A allaf weld unrhyw ddeunyddiau enghreifftiol?

​

Bydd cynlluniau gwersi am ddim ar gael ar ein sianel TES ar gyfer pob cwestiwn yn y misoedd nesaf. Yn y cyfamser, gallwch edrych ar y darnau ysgrifenedig gan ein rhai a gyrhaeddodd rownd derfynol 2025 yma.​

Eich data

Bydd unrhyw ddata personol mewn cais yn cael ei brosesu gan RES yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol, a Hysbysiad Preifatrwydd RES sydd ar gael yma: https://res.org.uk/resources-library/privacy-notice

Partners

KPMG logo
Royal Economic Society logo

FT Schools

The Financial Times has created a hub for schools and colleges. Teachers in schools around the world with students aged 16-19 years old can get free access to the FT here and request individual FT accounts. Colleges in the UK can also sign up. You can check to see if your institution is already registered.

​

Schools Digest, a weekly newsletter from global education editor Andrew Jack, features student competitions, quizzes and the best of the Financial Times' expert analysis and coverage. All FT subscribers and those on the free schools programme can subscribe here to receive it every Monday at 7am.

​

Click here for more information.

qqhkbjnjloecsrzy0bom.avif
What happens next?

What happens next?

Cyflwynwch eich cais yma.

​

Rhaid cyflwyno pob cais erbyn 23.59 (AHP) ar 29 Mehefin 2025.

 

Bydd panel yn darllen ac yn marcio’r ceisiadau cyn cytuno ar restr fer derfynol o 5 cais. Bydd y 5 cais ar y rhestr fer yn cael eu cyhoeddi ym mis Medi 2025 mewn digwyddiad i'w gynnal yn swyddfeydd KPMG ym mis Hydref 2025. Yn ogystal, bydd "Enillydd Cymru", o ysgol o Gymru, yn cael ei dewis/ei ddewis, gan gydnabod y cais gwychaf .

​

Bydd cyrraedd y rownd derfynol yn golygu rhoi cyflwyniad 10 munud ac yna 5 munud o gwestiynau gan banel arbenigol cyn cyhoeddi yr enillydd. 

​

​

FAQs
Connect with us
  • Instagram
  • X
  • LinkedIn
  • YouTube
  • TikTok
Contact Us

2 Dean Trench St

Westminster

London

SW1P 3HE


Telephone: +44 (0) 203 137 6301

discovereconomics@res.org.uk

​

​

The Royal Economic Society is a
Registered Charity no. 231508.

FUNDED BY
Bank of England logo
Welsh Government logo
Diversity and Productivity logo
Government Economic Service logo
Academy of Social Sciences logo
Frontier_Logo_FullColour_edited.png
Logo_Color.png
Hub for Equal Representation logo
KPMG logo
Master-RGB-DarkGreen.png
The Health Foundation logo

Discover Economics is A campaign to increase diversity among economics students.

© 2023 by Discover Economics

bottom of page